Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OFNADWY RIW.

OFNADWY riw yw hwn. A rhaid i mi
Ei dringo i'r lan, neu golli'r llwybr cul;
A chyda'r llwybr y baradwys well,
A'r ddinas deg, ar uchelfeydd y nef
Sy draw'n ymgodi, a'i phalasau fyrdd
Yn cuddio eu tyrau mewn wybrennau aur?

"Nac ofna di, fy nisgybl! Bum o'th flaen
Fy hun yn teithio'r ffordd gerigog hon,
I fyny dring, i fyny i'th orffwysfa."

'Rwy'n gweld y llwybr. Hyd-ddo teithiaf mwy,
Mae olion ei gerddediad yn y byd
Yn eglur oll Esiampl berith yw,
Llawn o brydferthwch. 'Rwyf yn gweld
Rhagorion fyrdd mewn un cymeriad glân,—
Dyn, angel, Duw, oll yn yr unrhyw ddrych;
Dyn fel y bu, a'r Duwdod fel y mae.

Edrychaf yma, 'r aflan, nes disgleirio
Ei ddelw o’m mewn ar wedd ddifeius mwy;
Aruchel wyrth, O pwy a'i cwblha?

Dad, cymer fi i'th law, a gwna fi oll
O newydd; egwyddorion newydd dod
Yng ngwraidd fy natur, a diwreiddia'r hen.
Ac O amlyga'th allu crëol mwy
I iawn adferu fy serchiadau i drefn,
Sy heddyw'n dryblith ar wasgarfa flin,
Angylaidd nerthoedd, yn afradu'u grym
Ar wagedd, ac yn crwydro'n llwyr ddi ddeddf
Dros anial pechod, yn ceisio ac heb gael.

Gwnei ddyn yr angel ydoedd pan agorodd
Ei lygaid gyntaf ar y wynfa deg,
Ar wely o ros gerllaw y bywiol bren.