Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EWCH RHAGOCH, YSTORMYDD

EWCH rhagoch, ystormydd! Mae anian yn teimlo,
Holl anian, pan daeno eich cysgod fry;
Ac fel pe bai baner Jehova yn gwawrio
Cyffroa mil mil o fynyddoedd bob tu;
Mil mil o fynyddoedd, ar arch y taranau,
A welaf ar unwaith i lawr ar eu gliniau.

Taranwch, taranwch, ar ael y clogwyni
Sy'n cysgu mor drwm dros y dyfnder du ;
A chodwch eu beddau ar fannau y weilgi
Ar lechwedd o donnau, a berwed y lli;
Ewch rhagoch, ystormydd ! Maent hwythau'n dihuno,
Ac ar y terfynau yn ysgwyd i wylio.

O fynydd i fynydd llif ysbryd addolgar,
A'r broydd ymgrymant mewn dagrau islaw;
Trwy fil o ffynhonnau cyd-wyla y ddaear,
A chlywaf y goedwig yn cyffro gerllaw;
A'r nentydd ddyrchafant eu llais ar y bryniau,
A chludant i'r môr agoriadau y creigiau.

"Mae'r storm yn dy alw. Dadebra, fy Hywy!"
Hi glywodd yr alwad, a chododd o'm blaen;
A chlywaf hi'n rholio'n anesmwyth o'i gwely,
A thrwst ei dyfodiad ymhell ar y waen;
A gwae a arweinio ei farch trwy ei thonnau,
Ymwthia ymlaen fel hylif daranau,
Gan lyncu y nentydd i'w heigion chwyddedig,
Fel mân ddyferynau o gwmwl gwywedig;
A nertha ei braich ar arch y tymhestloedd,
A thaena ei gwely holl led y dyffrynnoedd.