Tudalen:Gwaith John Davies CyK.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Epistolau Paul a Salmau Dafydd i dafod-ieithoedd Môr y De; a thra'r oedd y Cymry yn dechreu canu emynnau Ann Griffiths yr oedd yntau'n dysgu anwariaid Tahiti i ganu'r un syniadau yn eu hiaith hwy.

Ym Mawrth 1826, anfonodd hanes ei fordaith i ynysoedd Rapa a Raivavae a Tupuai yn Gymraeg at John Hughes. Gwnaeth waith anhygoel bron,—pregethu'r efengyl a dirwest, gwareiddio brenin a gwerin, cyfieithu'r Beibl, gwneyd gramadeg a geiriadur, ysgrifennu llyfrau ysgol ac emynnau, golygu cylchgrawn, cyfieithu "Taith y Pererin" a llyfrau eraill,—rhoddodd lenyddiaeth yn gystal ag efengyl i Tahiti.

Erbyn Rhagfyr 31, 1844, yr oedd dallineb wedi dod arno. Nis gall ysgrifennu rhagor a'i law ei hun; ac ni wiw i neb ysgrifennu ychwaneg ato yn Gymraeg, nid oedd neb yn Tahiti fedrai ddarllen Cymraeg iddo. Bu farw Awst 11, 1855; flwyddyn i'r mis wedi marw John Hughes, a haner canrif i'r diwrnod bron wedi marw Ann Griffiths.

Cyhoeddodd John Hughes ei lythyr ar "Drefn Eglwysig Ynysoedd Mor y Dehau" yn 1821, a hanes ei fordaith i Rapa yn Eur-wasg Llanfair-caereinion yn 1827. Ceir llawer o'i hanes mewn erthygl gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod, yn "Newyddion Da" 1892, yn "Ysgolfeistriaid Mr. Charles o'r Bala" gan y diweddar Barch. Robert Owen, Pennal; ac yng nghyfrol werthfawr Penar,—"Cenhadon Cymreig."

O. M. EDWARDS.