IX. CYFNOD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.
1730-1777.
Cymru tua 1730.
P. Pa wyneb oedd ar grefydd yng Nghymru yr amser hyn?
T. Yr oedd trwy'r wlad lawer o wybodaeth, a llawer o wyr duwiol, ond yr oedd llawer iawn o anwybodaeth hefyd, llawer eto heb fedru darllen, a llawer o hen chwedlau pabaidd ymhlith yr hen bobl. Yr wyf i'n cofio yn ddigon da y geiriau canlynol a'u cyffelyb,—"Croes Duw," "Duw a Mair," &c. Yr oedd y cyfryw rai ag oedd yn arfer yr ymadroddion hyn yn galw eu hunain yn Eglwys Loegr yn gyffredin, ac yr oedd llawer iawn o honynt trwy Gymru a'r ieuenctyd yn canlyn dawnsio, wylnosa, a llawer o gampau a drygioni.
Griffith Jones, Llanddowror.
P. A oedd neb gwyr enwog am dduwioldeb yr amser hyn o Eglwys Loegr, ymhlith y Cymry, canys y mae yn debyg mai yno yr oedd yr anwybodaeth mwyaf?
T. Diau mai yno'r oedd yr anwybodaeth mwyaf, ac yn ganlynol anuwioldeb, tyngu, rhegu, &c. Y gwr mwyaf hynod am dduwioldeb, ar wn i, yn Eglwys Loegr yr amser hynny yng Nghymru, oedd y parchedig Mr. Griffith Jones o Landdowrwr yn sir Gaerfyrddin. Byddai ef yn pregethu yn y llannoedd ar hyd y wlad ar brydiau, a byddai lluoedd yn ei wrando yn gyffredin. Heb law ei weinidogaeth, bu ef yn ddefnyddiol