Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tuag at yr argraffiad yn 1746, er mwyn i'r Bedyddwyr gael rhai o honynt, canys yr oeddent mewn mawr ddiffyg. Rhoddes ef hefyd Feiblau i'r tai cyrddau yn gyffredin ymhlith y Bedyddwyr trwy Gymru, ac enw'r tŷ cwrdd mewn llythrennau euraidd ar glawr y Beibl a berthynai i'r lle. Mae amryw o honynt eto yn y wlad.[1]

Beibl Gymdeithas Llundain.

P. Oni argraffwyd y Beibl wedi hynny?

  1. Pan soniodd Dr. J. Stennett wrth rai o'r gymdeithas am roi arian gyda hwy tuag at ddwyn y draul er mwyn cael Beiblau i'r Bedyddwyr, yr oedd yr esgobion ac eraill yn barod iawn i dderbyn ei gynnyg; gan eu bod yn ofni y byddai'r baich yn rhy drwm iddynt hwy. Ond erbyn dyfod y Beibl allan o'r argraffwasg, yr oedd cymaint o ymofyn am Feiblau gan bobl Eglwys Loegr ymhlith y Cymry fel yr oedd yn anhawdd ganddynt adael y Doctor i gael cynifer ag oedd wedi cytuno am danynt. Dywedai'r esgobion wrtho,Ai cymwys yw i ni gynorthwyo eich pobl chwi, a gadael ein pobl ein hunain mewn diffyg?" Atebai yntef, Cymmwys i chwi wneyd cyfiawnder à mi cyn gwneyd elusen i'ch pobl eich hunain. Nid wyf fi yn ceisio ond cyfiawnder, yn ol eich cytundeb, &c." Felly caniatawyd iddo yr hyn a addawsid, ac yntet a dalodd am danynt. Dywedodd y Doctor y pethau hyn wrthyr fi yn 1751, ac iddo orfod ymresymu yn wrel ar gwyr mawrion cyn gallu cael ei ran, yn ol y cytundeb. Da iawn oedd gweled pobl yr Eglwys mor awyddus i gael y Beibl; ond cyfyng ydoedd ar yr Ymneillduwyr am Feiblau yr amser hynny. Bu Dr. Stennett yn llafurus iawn ac yn dra chariadus a haelionus i'r Bedyddwyr yng Nghymru y pryd hyn. Mae o'm blaen i nawr llythyr oddiwrtho yn 1751 yn rhoi hanes o'r Beiblau oedd wedi eu danfon i sir Fynwy a sir Forganwg. Yr oeddent bedwar ugain o nifer, ac o hynny yr oedd 15 at dai cyrddau, a'r lleill i dlodion yn y cynulleidfaoedd. Ac yn gyfatebol i hyn yr oedd wedi danfon i'r Bedyddwyr yn siroedd eraill Cymru. Nid oedd dim 15 0 dai cyrddau yn y ddwy sir: eithr tai annedd, lle byddid arferol o gyfarfod, oedd ynghylch hanner o honynt. Yr oedd enwau'r tai hynny ar y Beiblau perthynol iddynt, fel y lleill mewn llythrennau melynion ar y cloriau.