T. Mae llawer o ddynion yn ddigon anwybodus. Ond o gylch y flwyddyn 1534 y cyfarfu'r Parliament yn yr hwn y gwnaed ac y sefydlwyd Eglwys Loegr wrth gyfraith y tir. Felly darfu iddynt gytuno â'r Protestaniaid dros y môr, ac o hynny allan galwyd trigolion y deyrnas hon yn ddiwygwyr, yn Brotestaniaid, ac yn Eglwys Loegr. Felly gallwn ddywedyd fod Eglwys Loegr y flwyddyn hon, sef 1777, yn 243 oed.
P. Beth oedd wedi dyfod o'r Cymry erbyn hyn?
T. Ychydig cyn hyn yr oedd yr hir ryfel rhyngddynt a'r Saeson wedi darfod, ac yr oeddent oll dan yr un gyfraith, megis y maent yn awr. Felly yn ol y gyfraith uchod yr oeddent oll yn cael eu cyfrif yn Eglwys Loegr.
Cyfieithu rhan o'r Beibl i'r Gymraeg yn 1551.
P. Pa bryd y cafodd ein gwlad ni Air Duw yn ei hiaith eu hunain ?
T. Buont yn hir hebddo, er yr amcan da a grybwyllwyd. Yr oedd ein tadau erbyn hyn wedi hir ymgynefino a Phabyddiaeth a grefydd fel nad oedd ynddynt fawr duedd i'w gadael. A'r rhan fwyaf o honynt heb fedru darllen. Cyfieithwyd ac argraffwyd rhyw rannau o Air Duw i'w ddarllen yn Gymraeg yn amser gwasanaeth Eglwys Loegr yn 1551.[1] Ond daeth
- ↑ Yn 1546 argraffwyd llyfr o'r cynhwysiad hyn,—"Yn y llyvyr hwnn y traethir Gwyddor Kymraeg. Kalandyr. Y gredo, neu bynkey y ffydd gatholig. Y pader neu weddi yr Arglwydd. Y deng air deddyf. Saith Rinwedd yr egglwys. Y Kampey averadwy, a'r Gwydieu gochladwy ae keingeu." Dyma'r modd y rhoddir cynhwysiad y llyfr hwn gan Mr. Moses Willams yn ei Gofrestr yn 1717. Yr wyf fi yn hollol farnu mai hwn oedd y llyfr Cymraeg cyntaf ag argraffwyd erioed: ys dau can' mlynedd ac un ar ddeg ar hugain i'r flwyddyn hon, 1777Ni ellais wybod pwy oedd awdwr y llyfr cyntaf hwn, ond y flwyddyn nesaf, sef 1547, argraffwyd Geir-lyfr Mr William Salesbury, fel y nodir yn y blaen. Pedair blynedd ar ol hynny, sef yn 1551, argraffwyd llyfr arall yn Gymraeg o'r cynhwysiad hyn, yn ol cofrestr Mr. Moses Williams, Kynniver Ilith a ban or ysgrythur ac a ddarlleir yr Eccleis pryd Commun, Sulieu, a'r Gwyliau trwy'r vlwyddyn: o Gambereiciat William Salesbury."Wrth hyn yr ymddengys nad oedd Mr. S. Thomas wedi cael cywir hanes pan y dywedodd i'r Beibl gael ei droi i'r Gymraeg yn amser Harry'r 8fed, yr hwn a fu farw yn 1547— Mae Mr. Peter Williams yn dywedyd, yn ei lythyr o flaen Beibl Caerfyrddin, i'r Salmau gael eu cyfieithu yn amser y brenin hwnnw. Os cyfieithwyd hwy mor gynnar, ni welaf fi argoel iddynt gael eu hargraffu cyn 1551. Mae'n debyg mai hyn oedd y llyfrau Cymraeg oll cyn yr erledigaeth a ddechreuodd yn 1553.