ddarllen y Gair iddo ef, ac felly y bu. Cymerwyd yr hen wr i fyny, er nad oedd ond pysgotwr, fel y disgyblion gynt; efe a ddioddefodd yn wrol dros ei Arglwydd, ac a gafodd ei losgi yn achos crefydd. Mae Mr. Fox yn rhoi hanes da rhagorol am y gwr hwn.
Gorchymyn cyfieithu'r Beibl, 1563.
Pa bryd y cafodd y Cymry ychwaneg o'r Gair yn eu hiaith eu hunain?
T. Bu farw y frenhines Mary yn 1558, yna darfu'r erledigaeth gydâ hi; a daeth ei chwaer Elizabeth i'r goron. Yr oedd hi yn erbyn Pabyddiaeth gymaint ag yr oedd y llall dros hynny. Yn 1563 gwnaed Act o Barliament i gyfieithu'r holl Ysgrythyr i'r Gymraeg, a holl wasanaeth Eglwys Lloegr, ac i esgobion Llanelwy, Bangor, Tŷ Ddewi, Llandaf, a Henffordd olygu'r gwaith, a'r cyfan i fod yn barod yn y llannoedd ddechreu Mawrth, 1566, a bod un Beibl ymhob eglwys, plwyf, a chapel trwy Gymru i'w darllen yn amser gwasanaeth. A hyd nes deuai hyn i ben, mae'r Act yn trefnu i weinidogion Eglwys Loegr ddarllen yn y llannoedd ryw rannau o'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r bobl yn Gymraeg, yn ol cyfarwyddyd yr esgobion a nodwyd. Rhaid fod y wlad yn anwybodus iawn dan y fath amgylchiadau a hyn.
Oedi.
P. A ddaeth y Beibl Cymraeg allan yn ol yr Act?
T. Na ddo. Ac nid rhyfedd; nid yw'r Act yn nodi pwy oedd i wneyd y gwaith, na phwy oedd i ddwyn y draul. Erbyn hynny nid oedd