y Drindod sanctaidd ac at y brenin James gan yr esgob Parry yn 1620."
P. Pwy oedd wedi gosod y gwyr hyn ar waith?
T. Tybygol eu bod wedi ei wneyd o'u gwir ewyllys da, canys y mae llythyr yr esgob yn nodi fod yr argraffiad cyntaf wedi treulio, fel yr oedd y rhan fwyaf o'r eglwysi naill ai heb un Beibl neu rai wedi mawr dreulio, heb neb, ar wyddai'r esgob, gymaint ag yn meddwl am ail- argraffiad.
Dr. John Davies.
P. Pwy oedd Dr. John Davies a enwasoch?
T. Cymro rhagorol a llafurus iawn ydoedd ef. Efe a argraffodd Ramadeg Lladin a Chymraeg yn 1621. Yn ei ragymadrodd mae'n dywedyd iddo, dros 30 o flynyddau, dreulio llawer o'i amser i fyfyrio ar iaith ei wlad ei hun, a'i fod yn cynorthwyo yn y ddau argraffiad Cymraeg o'r Beibl. Gwr cyfarwydd iawn ydoedd yn hanesion, arferion, a diarhebion ei wlad, a hyddysg iawn yn y Groeg a'r Hebraeg.
P. Mae'n debyg fod y wlad, fel o'r blaen, heb y Beibl, ond yn yr eglwysi.
T. Oeddent. Er mwyn yr eglwysi yr oedd yr argraffiad hwn fel y llall.
P. Beth a wnaed yn ôl hynny?
Gogoniant y Beibl Cymraeg.
T. O ran y cyfieithiad ni wnaed dim llawer o gyfnewidiad wedi'r argraffiad yn 1620. Am y cyfieithiad neu'r diwygiad hwnnw, yr hwn sydd gennym hyd heddyw, un da rhagorol ydyw. Yr oedd y gwr hynod a enwyd mor ddysgedig yn yr