hyn. Gan fod cymaint llid i'r ddau dyst yma, gwysiwyd hwy i Lundain, i ateb o flaen y frawdle, yno rhoed barn arnynt fel Penrhwygwyr yr Eglwys yng Nghymru. Bu hyn yn 1633, a thrachefn yn 1635.[1] Mae'n debyg troi Mr. Wroth a Mr Erbury allan o'u heglwysi yr amser hyn. Ond pregethu yr oeddent hwy lle gallent. Erbyn hyn yr oedd y Beibl gan y bobl i'w ddarllen, ac yr oedd rhai o honynt yn gallu chwilio yr Ysgrythyrau.
Erbury'n Fedyddiwr.
P. A oedd y gwyr hyn dros fedydd y crediniol neu fedydd plant?
T. Ni chlywais i ddim Ilai nad oedd Mr. Wroth dros fedydd plant, mae Mr. Baxter yn cyfrif Mr. Erbury ymhlith y Bedyddwyr,[2] nid oes achos i amheu na wyddai ef. Mae rhai o lythyrau Mr. Erbury at Mr. Morgan Lloyd, ac un o honynt at Eglwysi y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru, i'w gweled yn llyfr Mr. Thomas Meredydd, a argraffwyd yn 1770. Mae Dr. Walker (o waith Wood's Ath. vol. ii. P. 103.) yn cyfrif Mr. Erbury yn un o'r pennaf o bregethwyr teithiol Cymru.[3]
Olchon y gynulleidfa gyntaf.
P. Pa bryd y corffolwyd y gynulleidfa gyntaf o Ymneillduwyr yng Nghymru?
T. Hyd y gellais i gasglu, ar fanol chwilio, y gyntaf oedd yn, neu gerllaw Olchon, ar gyrrau sir Henffordd, sir Fonwy, a sir Frecheiniog. A