I FYNY MAE YMWARED
AR ganllaw aur y Wynfa ,
Mae llaw mor wen ar wawrddydd,
Yn estynedig atoch chwi
Gan wa'dd i fyny beunydd;
Y llaw fu am flynyddau maith
Yn dangos Nef i'w theulu,
Mae honno heddyw heb un graith
Yn dal i ddweyd "I fyny."
Mae llygad llawn o nefol fri
Yn edrych lawr o'r gwynfyd,
Disgleiriach ydyw hwn i chwi
Na mil o sêr gwreichionllyd;
Gaiff hwnnw fod i chwi, fy ffrynd,
Fel seren morwr gwrol,
Yn dangos beunydd sut mae mynd
I'r hafan têg, dymunol?
Ar aden wen y gyflym wawr,
A chydag awel hwyrddydd,
Daw tyner lais o'r nef i lawr
I swyno'ch clustiau beunydd;
Y llais fu gynt yn mynd a'ch bryd
Sy'n para i lefaru,
A chyda'r llais mae'r Nef i gyd
Yn dwedyd,—"Dring i fyny."
"I fyny" y mae blodau'r tir
Yn edrych pan yn tarddu,
Dwed hyd yn oed y glaswellt ir
Sydd ar bedd "I fyny;"
'Does dim trwy'r nef, 'does dim trwy'r byd
Yn edrych ar i waered,
A chofiwn ninnau ar bob pryd,
"I fyny mae ymwared.