AR LAN Y DDYFRDWY LONYDD
AR lan y Ddyfrdwy lonydd mae bwthyn bychan, gwyrdd,
Fel pe yn ymguddio rhag y storom fawr;
O dan y mynydd lle y pora'r wyn a'r mynn,
Fan honno treuliais lawer dedwydd awr.
Mae'r lili megis cynt
Yn ymysgwyd yn y gwynt,
Ac mae'r rhosyn coch yn gwenu'n yr ardd,
Ond p'le mae'r rhosyn coch
A fu'n gwenu ar ddwy foch
Morfudd deg fu'n eilun pur i galon bardd?
Du oedd ei llygaid fel tywyllwch hanner nos,
Gwynion ei gruddiau fel goleuni rhydd,
Gwên fel y wawr a ddwyfolai'i dwyrudd dlos,
Tra ei llais fel llais angel gwlad y dydd;
Ei serch oedd fel y dur—
Yn danllyd ac yn bur,
'Roedd ei chalon oll yn un â'm calon i;
Ond pa le mae Morfudd wen?
Ai ym mysg angylion nen?
Adsain brudd sy'n gofyn eilwaith,—P'le mae hi?
Ar lan y Ddyfrdwy lonydd y mae beddrod bychan, gwyrdd,
A'r haul yn edrych arno lawr o'r nef,
Anfarwoldeb gwyrddlas gyda gwlithos fyrdd
Yw yr unig addurniadau arno ef;
Mae engyl glân mi wn,
Yn gwylio'r beddrod hwn,
Ac mae 'nghalon innau yno nos a dydd;
O na allwn ddweyd i ti,
Morfudd anwyl, fel 'rwyf fi,
Yn dy garu, er yng ngwaelod beddrod prudd.