Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eu gwedd arweddai bryder,
A phryder wnai fwyhau
Ym mynwes y fam dyner
Wrth sylwi ar wedd y ddau.

Cydgraffai'r gwylwyr ffyddlon
Trwy'r ffenestr ar y donn,
Gan ddisgwyl gweld gweddillion
Rhyferthwy erchyll hon;
'Rol craffu hirion oriau
Ar olwg erch fel hyn,
Hwy welent ar y tonnau
Ryw smotyn bychan, gwyn.

Cydruthrai'r ddeuddyn allan,
Ond pan yn cau y ddôr,
Bendithient fam y baban,
A rhuthrent at y môr;
Ond prin cyrhaeddent yno
Y sypyn bychan gaed
Ar flaen rhyw foryn gwallgo,
Yn disgyn wrth eu traed.

Datblygent y dilladau,
A'r syndod mwya' 'rioed,
Ynghanol y plygiadau
'Roedd baban chwe mis oed;
Eu geirwon ddwylaw tyner
Gyfodai'r trysor iach,
A chludent ef mewn pryder
I fyny i'r bwthyn bach.