Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

FY NGWRAIG A FI.

(Efelychiad).

Ni welodd neb fy ngwraig a fi
Erioed yn ffraeo'n gâs,
Uwch ben ein bwthyn bychan ni
Mae'r awyr byth yn las;
Mae hi yn tystio fy mod i
Yn well nag unrhyw ddyn,
Ond wedi'r cwbl y mae hi
Yn mynnu ei ffordd ei hun.

Mae gwragedd rhai yn cwyno o hyd
Am arian gan eu gwŷr,
Os na chânt wisgoedd goreu'r byd,
Mae'u trwynau'n troi yn sur;
'Dyw ngwraig fach i, yn glaf nac iach,
Yn ceisio dim di-les,
Ond dyna'r aflwydd, bobol bach,
Y hi sy'n cadw'r pres.

"Wel, nag oes—nag oes!—"Oes—wel oes"
Fel hyn mae rhai o hyd,
Yn ffraeo beunydd hyd eu hoes
Wrth fyned trwy y byd;
Os bydd rhyw ambell air go wael
Cydrhwng fy ngwraig a fi,
Mae'r cwbl yn dawel—ddim ond cael
Yr olaf ganddi hi.
 Meh. 10, '72.