Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ADREF AT MAM

PAN b'wyf oddicartref, 'rwy'n teimlo
Fy hunan yn blino'n y byd,
Pan fydd fy ngelynion yn beio,
Ac ereill yn gwawdio'r un pryd;
'Rwy'n teimlo fel plentyn chwe troedfedd
Pan byddwyf yn cael unrhyw gam,
A byddaf yn dwedyd yn fynych,—
Mae arnaf eisieu mynd adref at mam.

Os byddaf yn gweled rhyw lencyn
Yn tyfu'n gicaion o hyd,
Yn lluchio ei arian fel cregyn,
A lluchio'i gymeriad 'run pryd,
'Rwy'n teimlo cryn awydd ar brydiau
Rhoi cyngor i'r cyfryw rhag cam,—
"Rhag iti ymhollti gan falchder,
Dos adref yn ol at dy fam."

Bum unwaith yn caru genethig
A'm calon yn gwlwm dan glo,
Yng nghariad fy meddwl brwdfrydig,
Mi deimlwn mor wirion a llo;
Gofynnais i'r ferch am briodi,
A'm dilyn trwy lwyddiant a cham,
Ond dyma'r atebiad roes imi,—
"Mae arnaf eisieu mynd adref at mam."

Mi lwyddais cyn hir i'w pherswadio
I gymryd fy nghalon a'm llaw,
I mewn i hen eglwys Llandrillo
Yr aethom ein dau yn ddi-fraw;
"A gymrwch chwi John," ebe'r person,
"Yn ŵr rhag pob gofid a cham?
Yn lle dwedyd "ymraf," mi waeddodd,—
Mae arnaf eisieu mynd adref at mam.