Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Os gwelwch chwi eneth ben-chwiban
Yn chwilio am gariad a gŵr,
Heb fedru rhoi nodwydd mewn hosan,
Na gwybod am sebon a dŵr,
Rhown gyngor i'r llanciau twymgalon,
Heb ddwedyd y rheswm paham,
Dywedwch wrth bob hogen wirion,—
"Dos adref yn ol at dy fam."

Peth anhawdd yw goddef yr hogyn,
Cyn tyfu yn bedair ar ddeg,
Yn ordro ei gwpan neu nogyn
A phibell wên hir yn ei gêg;
Cymerwch dosturi o'r bychan,
Rhag iddo gael gofid neu gam,
A rhowch iddo farblen neu degan,
A gyrrwch e'n ol at ei fam.
 Ebrill 12, 74.

Y CORWYNT

CURODD oreu cawraidd dderwen—nyddodd
Aneddau fel brwynen;
Ai Abred a ddaeth i'r wybren
I daflu'r byd fel ar ei ben?
 Rhag. 16.