Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Datblygid fry yn eitha'r ne'
Fanerau'r greadigaeth,
A chwarddai'r haul yn entrych nen
Ar ddydd ei genedigaeth.

Fu 'rioed fath gwrdd a chwrdd nos Iau,
Pan oedd y gwlaw'n pistyllio,
A'r bobl ieuainc bob yn ddau
O dan un umberelo,
Fe wenai'r ferch a gwenai'r llanc
Wrth wrando y caneuon,
Nes tystiai Rowlands sy'n y banc
Fod yno aml golision.

Fu 'rioed fath fyd, fu 'rioed fath stūr
Er pan y gwnaed tŵr Babel,
Ag oedd pan ruthrai'r curwlaw mawr
I lawr i'r cwpwrdd cornel ;
'Roedd Pencerdd Gwalia yn fan hyn,-
Ac Edith Wynne, 'ran hynny,
Bron at eu hanner yn y dŵr
Yn cadw stŵr 'n lle canu.

Yng nghwrdd y beirdd bu helynt fawr,
A dadleu i'w ryfeddu,
Pob un am gael y llall i lawr,
Wrth siarad ac englynu ;
"'Rwy'n codi i gynnyg," » meddai un,
"'Rwyf finnau'n codi i wrthod,"
Ond dwedai'r hen Waenfawr fel dyn,-
"Fu 'rioed 'run gwell cyfarfod."