Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

FY AELWYD FY HUN

MI welais balasau y mawrion ar dro,
A llu o gastellau ar fryniau'r hen fro,
Mi welais y dodrefn tra drudfawr a mâd
Sy'n urddo cartrefi arglwyddi ein gwlad;
Y loriau tryloewon o fynor gwyn, claer,
A'r lleoedd sy'n drigfan i'r arian a'r aur,
Ond welais i'r unman yn drigfan un dyn,
Oedd hanner mor ddedwydd a'm haelwyd fy hun,
Fy aelwyd fy hun,
Fy aelwyd fy hun,
Cartrefle dedwyddyd yw'm haelwyd fy hun.

Ar ol bod mewn corsydd a stormydd a stwr,
A chlywed erch gydgan y daran a'r dŵr,
'Nol teithio heb oleu un seren fach, dløs,
Mewn gofid a phryder yn nyfnder y nos,
Bydd gweled goleuni pen canwyll o’m cell
Fel seren y gogledd i'r morwr sy'n mhell;
Er stormydd a gofid, mor hyfryd yw'r hin
Dan gysgod pren mantell fy aelwyd fy hun;
Fy aelwyd fy hun,
Fy aelwyd fy hun,
Mae'n haf trwy y flwyddyn ar f'aelwyd fy hun.

Mor ddifyr yw gweled y gath wrth y tân,
Yn golchi ei chlust gyda'i phawen wen, lân,
Neu'n chwareu â'r bellen o ede wen, fain,
Sy'n rhwym wrth yr hosan a wauir gan nain;