Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar ol cael menyn, cîg, a chaws,
A glo a'r tân i'r tŷ,
'Dyw dyn ddim wed'yn damaid haws
Ymhen rhyw ddeuddydd neu dri.
Mae eisieu rhywbeth o hyd,
Ac er y trwbwl ar ol y cwbwl,
Mae eisieu rhywbeth o hyd.

Ar ol cael brecwast blasus iawn,
Bydd raid cael cinio mawr,
A rhywun hwylio tê'r prynhawn,
Ymhen rhyw bedair awr,
A chyn y rhown ein dwylaw 'mhleth,
Bydd eisieu swper drud,
A thrannoeth wedyn yr un peth,
Ac felly ymlaen o hyd.
Mae eisieu rhywbeth o hyd,
Ac er y trwbwl ar ol y cwbwl,
Mae eisieu rhywbeth o hyd.

Mae'r ferch ffasiynol ddydd a nos
Yn 'studio beth i'w gael,
Mae eisieu het a bonet dlôs,
A dress i chwyddo'r draul;
Mae eisieu dress y gwanwyn gwyrdd,
A'r gaea' a'r ha' mor ffôl,
Mae eisieu dress i rodio'r ffyrdd,
A dress i fynd i'r Ball.
Mae eisieu rhywbeth o hyd,
Ac er y trwbwl ar ol y cwbwl,
Mae eisieu rhywbeth o hyd.