Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"I'R PANT Y RHED Y DWR."

MAE natur fel mae dynion,
Am gael ei ffordd yn fawr,
Fe fynn y mậg fynd fyny,
A mynn y gwlaw ddod lawr;
Ond gan nad p'run am hynny,
Mae hyn yn ddigon siwr,
Beth bynnag rêd i fyny,
I'r pant y rhêd y dŵr.

Pan ddelo swydd i'w llenwi
Yn werth rhyw gant neu ddau,
Bydd llawer dyn mewn tlodi
Yn ceisio am dani'n glau;
Ond i'r sawl oedd a digon
Yr aiff y swydd yn siwr,
A dwed y bobl dlodion,—
"I'r pant y rhêd y dŵr."

Bu farw hen lanc cyfoethog,
A'i deulu'n dlawd i gyd;
'Roedd Mr. Jones, Fronheulog,
Yn berchen tiroedd drud;
A Jones oedd ei etifedd,
Ond cadwai'r lleill fawr stwr,
A dwedent dan gnoi'u gwinedd, —
" I'r pant y rhêd y dŵr."

Aeth mab i Hughes o'r Ogo'
I ddewis gwraig i'r Pant,
A chafodd ferch fan honno
Yn werth rhyw ddeunaw cant;
Rhodd Hughes ddwy fil o bunnau
I'r mab pan aeth yn ŵr;
"Well done, fy nhad," medd yntau,
"I'r pant y rhêd y dwr.'