Y MOCH YN YR HAIDD
UN diwrnod mi welais amaethwr
Yn rhedeg a'i het yn ei law,
A dangos wnai 'i holl ysgogiadau
Fod arno ryw ddychryn a braw;
Mewn gormod o gyffro i siarad 'roedd e',
A hawdd ydoedd gwybod fod rhywbeth o le;
O'r diwedd fe grynodd y bryniau o'r braidd,
Pan waeddodd y ffarmwr, —"Mae'r moch yn yr haidd."
Mae treth y tylodion yn uchel
Ar bawb sy'n ei thalu trwy'r plwy',
Ond nid yw tylodion yr ardal
Ond prin yn cael ceiniog neu ddwy;
Mae amryw swyddogion yn pesgi ar hon,
A nifer o glercod yn sugno ei bron,
Uwch arian y tlodion mae pob dyn a faidd
Yn debyg ryfeddol i fochyn mewn haidd.
Mae byrddau corfforaeth y trefydd
Yn byw, medda nhw, yn lled fras,
'Dyw'r byrddau hyn byth, meddai pobol,
Heb rywbeth a thipyn o flas;
Mae'r trethi gordrymion a godir trwy'r lle,
Yn mynd, meddai'r Bwrdd, at welliantau y dre,
Ond wedyn, pan basia'r boneddwyr, o'r braidd
Na waedda y plantos,—"Mae'r moch yn yr haidd."
Bu farw hen gybydd ryw ddiwrnod,
Gan adael ei gyfoeth a'i nyth,