A'r rhosyn mewn sirioldeb
A wenai yn ei gwyneb,
Yr hwn oedd gywir ardeb
O wyneb Morfudd hardd.
Ni chlywai mo'r aderyn
Oedd wrth ei chlust ar frigyn,
Yn hidlo peraidd gân;
Nid aethai'r noson honno,
A'r helynt hefo'r godro,
A'r llanc a basiodd heibio,
Ddim byth o'i chôf yn lân.
MYFANWY Y GLYN
ER na feddaf aur na thrysorau di-ri,
Na bwthyn na phalas yn eiddo i mi,
Y mawrion a bia bob maenol a bryn,
Ond y fi bia galon Myfanwy y Glyn.
Mae'r ffrydlif yn gwenu wrth redeg i'r pant,
A'r brithyll yn chwareu yn nyfroedd y nant;
A gwenu a chwareu wnaf finnau fel hyn,
Tra mai fi bia galon Myfanwy y Glyn.
Mae'r ŵyn ar y bryn mor ddifyrrus a llon,
A'r adar yn canu yng nghoedwig y Fron,
A llawen wyf finnau 'run fath a'r rhai hyn,
Tra mai fi bia galon Myfanwy y Glyn.