Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

H Ar y Mor. Blwyddyn arall lesg ei throed Bellach dyma finnau, Wedi cyrraedd llawnder oed A llawnder gwaeau, Ir fy oes, ond angau sydd Eisoes wedi crino 'M nerth, ac O! gerllaw mae'r dydd Pan raid syrthio. Iechyd, cariad, mam, a thad, Gwenau ffawd-oll wedi, Wedi'm gadael i dristad Unigrwydd mewn trueni ; Heddyw'n marchog brig y don Ar fy ffo rhag angau, Ond yn ofer-is fy mron Brath ddyfnach ei bicellau. Ond paham byw? A phaham ffoi, Mewn byd mor ddifwyniant; Paham peidio'n awr ymroi Gyda'r llifeiriant ? A fuasai ddim yn well Aros gartre i huno, 'Lle mynd i chwilio mewn gwlad bell Am fan i orffwyso? Na fai, O fy nwy chwaer fach Eto heb eu magu, Fy nymuniad pan yn iach Fyddai gallu, Cyn pen hir eu gweld,-y ddwy Anwyl amddifad, Wedi eu dwyn i fyny trwy Fy nghariad. 105