Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cefais lawer tawel ennyd
Hamdden i fyfyrio bywyd
Draw ymhell o'i dwrf terfysglyd,
Yn swn y môr.

Dan archollion brathol siomiant
Awn i lan y môr,
Yno i chwilio am ddyhuddiant
Yn swn y môr;
Dywedyd, yn ei ddull difrifol,
Nad yw gwynfyd yn arosol,
Ac mai gwagedd popeth dynol,
Mae swn y môr.

Tra ar lawr dan drallod ingol
Profedigaeth ddu,
Wedi colli'n anamserol
Un o'm rhiaint cu,
Nid adfydus gwyneb hudol
Anian, er fy ngofid mabol,
Canys gwenai gwanwyn siriol
Ar bob tu.

Ond gwell na'i gwên oedd gennyf ruad
Min y môr,
Yno cefais gydymdeimlad
Swn y môr,
Gwendon gref yn dilyn gwendon
I guriadau prudd fy nghalon,
Gan dragwyddol ruddfan undon
Min y môr.

O mor hoff yw gennyf gerdded
Glan y môr,
Ac mor anwyl gennyf glywed
Swn y môr!