Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FY NHAD.

Y nhad, anwylaf riant! deunaw mis
Sydd bellach wedi treiglo er pan welsom
Dy wyneb llydan, llariaidd, dan y chwys
A frys-fynegai angau; er pan roisom
Dy gorff lluddedig mewn gorffwys-fan is
Daearen hoff Llanaber,-llu o honom
Oedd iach a heinyf pan y'th gollsom di;
Sydd erbyn heddyw yn y beddrod du.

Mor hawdd yw gennyf gofio am y pryd,
Pan mewn addfedrwydd dyndod a mwynhad
O iechyd llon a chwarddai yn dy bryd,
Yr elit oddiamgylch heb nacad,
Na chysgod pryder yn cymylu'th fryd,
I fwyn gyflawni dyledswyddau tad,—
Ymchwyddai'th fron bryd hynny gan obeithion
Dyfodol gwell, a henaint llawn cysuron.

Ond gwell fa'i gennyf fi i'r dyddiau hyn
Ymgolli o fy meddwl, nid yw'r adgof
Am danynt ond yn chwerwi'r teimlad syn
Sydd ar adegau bron a'm gyrru'n wallgof,
Pan gofiaf eto am y dyddiau blin
Fu raid it brofi gwedyn, riant gwiwgof,—
Y byd yn gwgu, amgylchiadau'n pallu,
Dy nerth yn mynd, a'th fynwes yn ymdorri.

Er iti'n hir a llwyr gyflawni'th ran
Ar wyllt chwareufwrdd bywyd, er fod iti
Anwyliaid ffyddlon i'th ddyddanu pan
Yn loesion profedigaeth; er it allu
Am ennyd fer yn gryf ymgynnal dan
Y baich o boen a'th lethodd wedi hynny,
Rhy dyner oedd dy ysbryd a theimladwy,
A'th unig noddfa yn'r ystorm oedd—marw!


{{Div end}