Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BEDDAU Y TEULU.

"Graves of a Household" Mrs. Hemans.

MEWN harddwch a gwynfyd y tyfent ynghyd,
Un cartref a lanwent â llonder;
Eu beddau sy ar wasgar dros bedwar cwr byd,
Ger mynydd, ger eigion, ger aber;
Yr un fam a blygai yn serchog uwchben
Eu gruddiau rhosynaidd tra'n hepian,—
Ei blodau oedd yno'n gauedig o'i blaen—
Ple mae ei breuddwydwyr yrwan?
Yn nhrwchus goedwigoedd Amerig un sydd
Yn huno ger dyfnffrwd dywyllaidd,
Yr Indiaid a ŵyr am ei orffwys-fan cudd
Dan gysgod y cedr cadarnaidd.
Yr eigion glas, unig, i'w fynwes gadd un
Ar wely o berlau i orwedd,—
Anwylyd pawb ydoedd, ond ni chaiff yr un
Byth wylo uwchben ei ddis'aw-fedd.
Syrthiodd un lle'r ymddyrcha y gwinwydd yn llon
Goruwch y lladdedig urddasol,
Ei faner a blygodd oddiamgylch ei fron
Ar gadfaes Yspaenaidd gwaed-ruddol.
Ymhlith blodau'r Eidal y gwywodd y ferch,
Yr olaf o'r teulu mad tirion,
A'r myrtwydd dywalltant ddail peraidd eu serch
Uwch ei hannedd, wrth arch yr awelon.
Ac felly, ar wahan, y gorffwysa rhai fu'n
Cydchwareu dan gangau yr helyg,
Fu foreu a hwyr yn gweddio'n gytun
Wrth lin yr un famaeth barchedig;
Y rhai â'u teg wenau siriolent y ty-
A lonnent yr aelwyd â chanau ;-
Ow! druan o gariad os nad oes i ni,
O fyd, ond tydi a'th deganau!