Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A dychwel o fwyniant yr hen amser gynt ?
A pheth pe gollyngid i fynd gyda'r gwynt
Y ferch a'r pen melyn, er agor y drws
I ti unwaith eto, fy nghalon fach glws?
GWEN.
Er fod fy anwylyd yn harddach na'r ser,
A'i wenau mor hawddgar, a'i eiriau mor bêr,
Ac er dy fod dithau 'n fwy diwerth na dellt,
A'th natur yn wylltach na fflachiad y mellt,
Er hyn, gyda thi y dymunwn gael byw,
A chyda thi farw, os boddlon gan Dduw.

1876.