Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac nid oes yn swyn y dyfodol
Ond adswyn dyddiau fu;
A fu yw llawenydd mebyd,
A chariad mam a thad,
A heddwch meddwl, a gwynfyd
Meddiannu dy fynwes fad.

Wrth syllu ym myw dy harddwch
Gweled yr oeddwn ddedwyddwch
Colledig saith mlynedd yn ol;
Yn wysg fy nghefn 'rwyf yn cerdded
Drwy fywyd ymlaen, gan, wrth fyned
Hiraethu am bethau ar ol.

Ond, er treiglo saith o flynyddau,
Yr un ydwyt ti o hyd,
Yr un ydyw nerth dy wenau,
A thlysni gorhudol dy bryd;
Dy aelau teg sydd mor dywyll,
Dy wddf mor wyn ag erioed,
A'th lygaid mor dduon, mor anwyl,
A phan oeddit dair ar ddeg oed.

Dy gymdeithas hyd dragwyddoldeb,
A thrwy dragwyddoldeb di,
Yn unig a wnai anfarwoldeb
Yn werth ei ddymuno i mi;
Er hynny, ni chefais o'th gwmni,-
O wyrni popeth y llawr!
Mewn blwyddyn lawn o drueni
Ddim ond cwarter awr.

Fyd arall-fythol ddihangfa
Rhag holl anwadalwch oes,
Rhag gorfod ymadael mewn dagrau
Rhag cam, rhag enllib a'i loes;