unrhyw gynhygiad. O'r diwedd galwodd y steward y baili ato, a dywedodd,
"Yr wyf yn ofni y rhaid i ni sefyll at Cilhaul am y flwyddyn yma; a rhaid i ni ymroi i ffarmio gystal ag y medrwn ni. Ni geisiwn borfau mwy o honi, ac aredig llai o honi, nag oedd Jacob Highmind yn wneyd. Rhai pur dibrofiad a diofal oedd Jacob a'i wraig. Mi ofynnaf fi i'm cyfaill craffus W. Wilful, Yswain, o Severn—mead, am fyned i lawr gyda chwi i ffair Midland i brynnu Herefords a Southdowns i ni; ac yr wyf yn bur hyderus y gwnawn yn dda iawn o'r ffarm."
Tua diwedd yr haf gofynnodd y steward i'r baili pa fodd yi oedd yr Herefords a'r Southdowns yn troi allan.
"Drwg iawn yn wir, syr; y mae y rhosydd a'r gweunydd yn rhy wlybion ac yn rhy frwynog iddynt, ac y mae y moelydd yn rhy oerion iddynt: dichon fod y tymor wedi bod yn fwy anfanteisiol nag arferol; ond beth bynnag am hynny, y maent yn edrych lawer gwaeth nag oeddynt pan ddaethant yma, ac y mae y prisiau yn awr yn bur isel; nid allwn ni ddim cael cymaint am danynt ag ydym ni wedi roddi, er eu bod wedi cael holl borfa llaeth ac ymenyn y ffarm i gyd."
"Beth, baili, wyt ti yn dweyd nad allwn ni gael dim cymaint am danynt ag a roisom?"
"Ydwyf, syr, yr wyf yn ofni hynny."
"Wel, beth gawn i wneyd, baili? Y mae hyn yn beth braidd profoclyd. O dangio y free—traders yna.
"Y mae yn rhy ddiweddar i chwi eu dangio hwy yn awr, o leiaf am eleni. Nid oes gennym ni ddim arian mewn gafael tuag at y talion nesaf."
"Wel, gwell i ni adael cyfrifon yr hanner