Tudalen:Gwaith Sion Cent.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.




HYD yn hyn, ni chyhoeddwyd yng Nghyfres y Fil neb o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg ond Dafydd ab Gwilym. Un rheswm am hynny ydyw mai cyfres i'r werin, nid cyfres i ysgolheigion yw'r gyfres; ac am hynny gwell, ar y dechreu, beth bynnag, cyhoeddi gwaith beirdd mwy diweddar, oherwydd eu bod, o ran iaith a mater a cnyfeiriadau, yn fwy dealladwy.

Ond yn awr ymddengys, ymysg cyfrolau ereill, rai o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg, y bymthegfed, a'r unfed ar bymtheg. Y mae dau reswm dros eu cyhoeddi.

Yn un peth, y mae gwerin gwlad, erbyn hyn, yn ddigon dysgedig i ddeall rhediad cywyddau'r canol oesoedd, os rhoddir hwy yn sillebiaeth y dyddiau hyn. Y mae arnynt awydd cael gwaith eu hen feirdd, oherwydd gwyddant mai ohonynt hwy y cafodd llenyddiaeth ddiweddar lawer o'i hysbryd.

A pheth arall, yr ydym ar fin pum canmlwyddiant marw Owen Glyndŵr. Dyrysodd rhyfel chwerw ei amcanion mawrion ef, a daeth cymylau duon dros ddydd y buasai ei fore'n llachar, ac yn llawn addewid oes newydd i grefydd, llenyddiaeth ac addysg. Hoff gan Gymry pob oes yw edrych i'r bore prydferth hwnnw.