Nes y daeth yn nos a dydd. |
Ysbrydion duon a ymadawent,
O flaen y goleu'n filiwn hwy gilient;
Bronnau hen ddreigiau ymgynddeiriogent,
I'w bythol ffau'n anobeithiol ffoent,
Yn arw, a thwrw y bytheirient
Eu du gableddau-llidiog v bloeddient,
I ganol gwyll disgynnent-yn ddigllon,
Angylion doethion a Duw felldithient.
Yr ail ddydd rheolodd ION
Yr awyr a'i hamrywion;
Mantolodd, rhodd i bob rhan
Ei fanwl ddeddf ei hunan:
Y DUW mawr a'i cymysgai'n dymherus,
O wahanol ansoddau ennynus,
Yr ulai afreolus—a'r blawrai
Gydbwysai á'r ufelai'n ofalus.
Rhwng dyfroedd a dyfroedd daeth
Yn gaer o fawr ragoriaeth.
Cadwai ef ddyfroedd y moroedd mawrion
Rhag i drachwant eu cynddeiriog drochion
Ruthro'n llidiog o'u gludiog waelodion,
Yn boen a dinistr i feibion dynion,
I wneud drych ein daear hon-fel du fedd;
Neu ail i annedd lawn o elynion.