Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Can's teilwng, teilwng wyt ti,
Ti a luniaist oleuni:
Agoriad un gair o dy enau-dwyfol,
Lefarai nerthol fawrion wyrthiau.

Y DUw ddylid addoli,
Onid Tad pob peth wyt ti?
Gwelir dy waith disglair di
Drwy fydoedd dirifedi;
Adrodd nerth dy roddion wnant,
A'th glod cyfoethog ledant :
Mawl! mawl: tragwyddawl ar goedd,
I'r BOD sy'n llywio'r bydoedd!