Tudalen:Gwaith William Ambrose (Emrys).djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei weled yn lle braf iawn; a gofynnodd i mi y cwestiynau rhyfeddaf a ofynwyd erioed ynghylch y bregeth. Deallais fod ganddi ryw syniadau am grefydd, yn parotoi ei meddwl i gredu mewn gwyrthiau. Aeth i'r Ysgol yn y prydnawn, a bu gyda ni yn yr oedfa hwyrol. Cymerodd fy ngwraig ddyddordeb neillduol yn yr eneth; a phenderfynodd, os cai gydsyniad ei rhieni, i'w chymeryd yn wasanaethyddes, a'i dwyn ymlaen mewn gwybodaeth. Bu ei thad yn agos i flwyddyn cyn rhoddi ei gydsyniad; ond pan oedd efe groesaf, llwyddai Catherine i fedru dod i'r moddion yn ddigoll. Dysgodd ddarllen yn fuan. Yna rhoddwyd iddi fenthyg Beibl a Thaith y Pererin i fyned gyda hi adref. Darllennai y rhai hynny i'w brodyr a'i chwiorydd. Dysgodd iddynt hwythau sillebu a darllen, a denodd hwynt gyda hi i'r capel. Wedi iddi ddyfod atom i fyw, daeth yn aelod cyflawn o'r eglwys, ac yn athrawes ffyddlawn yn yr Ysgol Sul. Nid oedd. arnom ni fel teulu lawer o angen am wasanaeth geneth o'i hoed hi; ond yr oeddym yn cael vr hyfrydwch o weled un wedi cael ei chipio fel pentewyn o'r tân, ac yn cael ei pharotoi i ogoniant y nef. Wedi iddi fod gyda ni dair blynedd, cawsom le iddi gyda Mrs. Ll——— Bryn. Er bod y feistres yn dra gelynol at Ymneillduaeth ac Ymneillduwyr, deuai Catherine dair gwaith bob Sabbath i'r capel, ac ni thaflodd ei meistres un rhwystr ar ei ffordd. Dywedai Mrs. Ll———, "Y mae Catherine yn gofalu na byddo dim gwaith yn colli drwy ei bod hi yn myned i'r capel; felly yr wyf yn cyfrif mai nid fy amser i, ond ei hamser ei hun, y mae yn gymeryd. Nid oes yn y wlad