Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cur dy ddwy-fron, tynn dy wallt,
Wyla'r deigre dwr yn hallt;
Cria'n ddyfal iawn," Peccavi,[1]
Arglwydd, maddeu 'meiau imi."

Bwrw ymaith dy ddiffeithdra,
Twyll, a ffalstedd, a phuteindra,
Gad dy fedd-dod, cladd dy frynti,
Mae Duw'n gweld dy holl ddrygioni.

Mae dy farn wrth ede wen,
Yn crogi beunydd uwch dy ben.
Mae dy blant a phob ei reffyn,
Yn ei thynnu ar dy gobyn.

Gochel bellach, dal dy law,
Dial Duw fel bollt a ddaw:
Rhoi it' rybudd prudd sydd raid,
Oni chym'ri rybudd, paid.




  1. Pechais.