Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tynn fel Peder i ryw gornel,
Wyla'n chwerw dros dy gene'l;
Y mae'r ceiliog yn dy gofio,
Cais drugaredd cyn dy blagio.

Gwna dy gownt a'th gyfri'n barod,
Cyn dy fynd o flaen y Drindod;
Nynn dy lamp, a gwisg dy drwsiad,
Cyn y delo'r chwarren arnad.

Chwyrn yw'r chwarren pan ei delo,
Ni ry amser it ymgweirio;
Bydd barodol yn ei gwiliad,
Bob yr awr cyn delo atad.

Os ymgweiria Cymru farw,
Ac i fynd at Dduw yn hoew,
Hawsa i gyd i Dduw dy spario,
A rhoi iechyd hir it eto.

Duw fo grasol wrthyd, Cymru,
Duw ro ras it edifaru,
Duw'th achubo rhag y chwarren,
Duw ro iti flwyddyn lawen.

Cymru, Cymru, mwrna, mwrna,
Cwyn fel Ninif, edifara;
Gwisg dy sach, cyhoedda ympryd,
Llef am ras, a gwella'th fywyd.

Y mae Lloeger, dy chwaer hyna,
Yn dwyn blinder tost a gwasgfa,
Dan drom wialen y Duw cyfion,
Sy'n ei maeddu yn dra chreulon.

Y mae'r plag yn difa ei phobloedd,
Fel tan gwyllt y ddoi o'r nefoedd,
Ac fel gwaddaeth ar sych fynydd,
Yn goresgyn ei holl drefydd.