Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'm gwallgofi. Yr oedd ynof dan y cwbl gydwybodolrwydd mai 'peth ofnadwy fyddai syrthio yn nwylaw y Duw byw.' "

Pan tua chwech mlwydd oed, fel y clywsom ef yn barod yn dyweyd ei hun, anfonwyd ef i ysgol ddyddiol yn y Brithdir. Bu wedi hyny "yn awr ac yn y man mewn ysgolion eraill, yn Rhydymain, yn Llanfachreth, gyda Mr. Ellis Edwards, Penybryn, gerllaw Dolgellau, ac yn Nolgellau, gyda y Parch. Roger Edwards, yn awr o'r Wyddgrug. Ei hynodrwydd penaf fel ysgolaig oedd nerth ei gof, a'i gyflymder yn dysgu unrhyw wersi a roddid iddo. "Yn ystod yr ugain mlynedd y bum yn cadw ysgol," meddai ei hen athraw a'i gyfaill Mr. Ellis Edwards, "ni bu gyda mi erioed ysgolaig mor gryf ei gof." Wedi terfynu ei ysgol yn Nolgellau, cymerodd L. Williams, Ysw., Banker, o'r dref hon, a pherchenog y Tycroes, Evan Jones i'w wasanaeth. Hwn oedd yr ymgais cyntaf i'w roi mewn gwasanaeth, a'r olaf hefyd. "A'i drwyn yn ei lyfr" y delid ef yn fynych yn lle yn cyflawni ei orchwyl. Pan yr anfonid ef ar neges i'r dref, yn nhŷ un o'n llenorion yn ysglyfio rhyw gyfrol ddyddorol, neu gydag un o'n beirdd lluosog yn "clecian y cydseiniaid," y ceid ef, yn llwyr esgeuluso y neges a roddesid iddo. Profodd cydymdeimlad y boneddwr caredig o'r Fronwnion â'i denant helbulus yn hollol ofer. Anfonodd y "bachgen rhyfedd" adref mewn anobaith y "deuai dim byth o hono." Nid oedd unrhyw anghen am lygaid prophwyd i ragweled y profai yr anturiaeth hono yn fethiant. Pa beth ond methiant a allesid dysgwyl o osod traed bachgen i fyned mewn un cyfeiriad, pan yr oedd holl alluoedd a dyheuadau ei enaid mewn cyfeiriad hollol wahanol? Nid meddyliau ei dad a'r banker teimladwy oedd meddyliau Duw am y bachgen hwnw. Nid yn was i banker y rhagluniasai ei Dduw iddo fod, ond yn oruchwyliwr ar ei "anchwiliadwy olud" ei hun. Yr oedd Evan Jones, yn y Fronwnion, mewn lle, ond nid yn ei le. Pan yr arweiniodd Rhagluniaeth Ddwyfol ef i'w lwybr ac i'w le ei hun, nid methiant a fu yno—aie, Gymru?

Pan yn aros yn Nolgellau, ffurfiodd Evan Jones gydnabyddiaeth â phrif feibion yr Awen yn y dref. Bu y dref hon gynt yn enwog am ei beirdd. Yn 1821 sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion yma, yr hon a ddaeth yn mhen ychydig flynyddau yn glodfawr trwy yr holl Dywysogaeth. Cynaliai ei chyfarfodydd misol yn ngwestŷ Mr. Ellis Rees[1], y Star Inn—"ein tŷ ni." Cyfnod auraidd yr Awen yn y dref hon oedd ugain mlynedd bywyd y Gymdeithas ddyddorol hono. Mae yn amheus genym y gallasai un dref arall yn Nghymru o ryw ddwy fil o boblogaeth ymffrostio yn y fath nifer o ddynion athrylithgar, deallus, brwdfrydig ag a gynwysai Cymdeithas Cymreigyddion Dolgellau. Cynganeddwr campus oedd ei llywydd cyntaf, Llewelyn Idris. Ei hislywydd oedd Bardd Meirion, ei bardd, Gwilym Cawrdaf, ei harchdderwydd, y Parch. Cadwalader Jones. Yn mysg ei haelodau mwyaf adnabyddus yr oedd Mr. J. Pugh (Ieuan Awst), cyfreithiwr, ac argraffydd, prif gyfaill Dafydd Ionawr,—gwr o feddwl cryf, bardd rhagorol, un a ystyriai

  1. Tad Oliver Rees, awdur y llyfr hwn