Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/670

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deall iddo gamgymeryd ei ysglyfaeth yn y diwedd. Felly rhaid i ni gymeryd arferion cyffredinol cenedl y Cymry fel arwyddion o'u drwg a'u da. Ond cyn gwneud hyn, dylem sylwi fod amgylchiadau yn cymedroli llawer ar arferion naturiol gwahanol ranau o'r bobl ogaeth, ac arferion naturiol yn rheoli llawer ar y tueddiadau moesol. Er engraifft, gwna gwahaniaeth yn natur y tir mewn dwy ardal wahaniaeth pwysig yn arferion y trigolion, a ffurfia y gwahaniaeth hwn wahaniaeth yr un mor amlwg yn eu tueddiadau moesol. Mewn un ardal, gofynir mwy o wyliadwriaeth na llafur, neu fwy o drafnidiaeth nag o amaethyddiaeth. Mewn un o'r amgylchiadau hyn, drwg y bobl yw diogi neu dreulio amser yn ofer; yn y llall, eu rhinwedd fyddai diwydrwydd. Byddai un dosbarth o ysbryd llonydd, diawydd am wellhâd, byddai y llall yn llawn anturiaeth a dyfais. Felly â'r drwg a'r da a ellir briodoli i'r Cymry, y mae llawer yn dibynu ar amgylchiadau. Os ydynt yn ddianturiaeth, dylid cofio mai cenedl amaethyddol ydynt erioed wedi bod. Os ydynt yn annysgedig, rhaid cofio fod eu sefyllfa gymdeithasol yn isel ; ac os ydynt yn anniwair, rhaid edrych ar yr achosion neillduol a gynyrchant y drwg h ... Yn fyr, nid i ddrwg gwreiddiol y galon y dylid priodoli pob drwg yn ei amlygiadau a'i helaethrwydd, ac nid i rinwedd a gras yn y galon y mae priodoli amlygiadau a helaethrwydd pob da. Y mae amgylchiadau, nid yn gwneud dyn yn ddrwg, ond yn ei wneud yn waeth na'i dueddiadau; ac y mae llawer dyn yn ymddwyn yn rhinweddol mewn un sefyllfa, ond yn troi yn adyn ysgeler mewn un arall. Mae y dwfr yn caledu gwer, ond yn toddi siwgr. Mae y blodeuyn yn gwywo yn y cysgod, ond yn blaguro yn llygad yr haul. Felly, amgylchiadau sydd yn cadw llawer dyn yn sobr, ac amgylchiadau sydd yn gwneud llawer yn feddwon. Amgylchiadau sydd yn cadw llawer o'r carchar, ac amgylchiadau sydd yn anfon llawer yno; a chan fod gan amgylchiadau ddylanwad mor rymus, dylid bod yn ochelgar, wrth drin moesoldeb cenedlaethol, rhag priodoli i egwyddor yr hyn a berthyn yn briodol iddynt hwy.

O'r " Gwron Cymreig " am Ionawr 27ain, 1852.



DIWEDD Y GWEITHIAU CYMRAEG.




DOLGELLAU : ARGRAFFWYD GAN W. HUGHES.