Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Canys beth yw tobacco, ond un o'm harfau gwaelafi, i ddwyn syndod i'r ymenydd? A pheth yw teyrnas Mammon, ond cainc o'm llywodraeth fawr i? Ie, pe dattodwn i y rhwymau sy genyf ar ddeiliaid Mammon a Balchder, ïe, ac ar ddeiliaid Asmodai, Belphegor, a Rhagrith, nid aroai ddyn fynyd hwy tan reolaeth un o honynt. Am hyny,' ebr ef, 'myfi a wnaf y gwaith, neu na sonied un o honoch chwi fyth.'

Yna cododd Luciffer fawr ei hun o'i gadair eirias, ac wedi troi wyneb hygar (neu hagr) o'r ddeutu: Chwi brif ysbrydion Hirnos, penaethiaid y ddichell ddiobaith,' ebr ef, 'er nad yw'r Fagddu fawr a gwylltoedd Distryw rwymedicach i neb am ei thrigolion, nag i'm breninol oruchelder fy hunan; canys myfi gynt, eisieu gallu tynu yr Hollalluog o'i feddiant, a dynais fyrddiwn o honoch chwi, fy angylion duon, gyda'm cynffon, i'r erchyllfa anesgor[1] hon; ac wedi, a dynais fyrddiwn o ddynion atoch, i gael rhan o'r byd sy yma; eto nid oes wad na wnaethoch chwithau eich rhan oll at gynnal a chynnyddu yr ymherodraeth fawr uffernol hon.'

Yna dechreuodd Luciffer eu hateb o un i un. 'Ac,' ebr ef, 'o un o godiad diweddar, ni wadaf fi na ddygaist ti, Cerberus, i ni lawer ysglyfaeth yn ynys y gelynion, o achos y tobacco, rhwng sy o dwyll yn ei gludo, yn ei gymmysgu, ac yn ei bwyso; ac y mae e'n ei ddenu i lymeitian cwrw; ac ereill i dyngu, rhegu, a gwenieithio i'w gael; ereill i ddywedyd celwydd i'w wadu; heb law yr afiechyd sy ynddo i amryw gyrff, a gormodedd yn niweidiol i bob corff, heb son am yr enaid. A pheth sy well, mae myrdd o dlodion, na chaem ni oni bai hyny mo'u cyffwrdd, yn soddi yma wrth roi pwys eu serch ar y tobeccyn, a gadael iddo eu meistroli, i dynu'r bara o safnau eu plant. Ac yn nesaf, fy mrawd Mammon, mae eich gallu chwi mor gyffredin a hysbys hefyd ar y ddaiar, a'i myned hi yn ddiareb, "Ceir pob peth am arian." A diammheu,' ebr ef, gan droi at Apolyon, 'fod fy anwyl ferch Balchder yn dra buddiol i ni; canys beth sy, nac a all ddrygu dyn fwy yn ei ystâd, ei gorff, a'i enaid, na'r 'piniwn balch ystyfnig hwnw a wna i ddyn wastraffu can-punt yn hytrach na phlygu i roi coron am heddwch. Mae hi yn eu cadw hwy mor warsyth, a'u golwg mor ddyfal ar uchel bethau, oni bo digrif eu gweled, wrth

  1. Gwel t. 21, n. 6; a 100, n. 4.