Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4. Trom yw'r galon, trwm y gwelir
Colli câr neu gyfaill cywir;
Colli da, neu dir, neu rydd-did,
Neu golli'r geirda, och! neu iechyd;
Colli llonydd a diofalwch,
Neu golli heddwch,
A phob difyrwch
Daiar farwol;
Colli cof neu ras tros encyd
Sy drymder enbyd,
Yn fwrn ennyd
Fawr anianol.

5. Trom yw'r galon (tramawr golyn !)
A fo'n dechreu 'mwrando â dychryn;
Ac â baich ei gorthrwm bechod,
Gan daer-ofidus geisio cymmod;
Cael blas oer ar bob pleserau,
Gan ddoluriau,
Tyst y brychau
Tost brawychus;
Cydwybod glaf mewn gwewyr esgawr
Ar ddyn newyddfawr
I lwyr ddinystriaw'r
Henddyn astrus.

6. Trom yw'r galon wraidd oreu,
Pan fo ar ei gwely angeu;
Tan arteithiau corff ac ysbryd,
Rhwng y fuchedd a'r afiechyd;
Dirfawr ing, ac ofni chwaneg,
Byth heb attreg,
Trom yw'r adeg,
Tramawr odfa!
Teimlo eitha'r bydan[1] hudol;
A'r byd tragwyddol,
Mawr, dyeithrol,
Ar ei wartha'.

  1. Y byd bychan, y byd bach.