Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llifeiriant o gwrw da; a phan fethais yn lladd ereill, daethym fy hun yn wyllysgar i'ch porthi.' Trwy genad y cwrt,[1] nid hanner a yrais i iddo,' ebr y butain, 'wedi eu hoffrwm yn ebyrth llosg, yn gig rhost parod i'w fwrdd.' Hai, hai,' ebr Angeu, er eich trachwantau melltigedig eich hunain, ac nid i'm porthi i, y gwnaed hyn oll: rhwymwch y ddau wyneb yn wyneb, gan eu bod yn hen gyfeillion, a bwriwch hwy i wlad y tywyllwch, a chwyded ef i'w cheg hi, pised hithau dân i'w berfedd yntau, hyd ddydd-farn."[2] Yna cipiwyd hwythau allan â'u penau yn isaf.

Yn nesaf i'r rhai hyn daeth saith Recordor:[3] peri iddynt godi eu dwylo at y bar; ni chlywid mo hyny, canys yr oedd y cledrau yn ireidlyd;[4] ond dechreuodd un ddadleu yn hyfach: Ni ddylasem gael dyfyn teg i barotoi ein hateb, yn lle ein rhuthro yn lledradaidd.' 'O, nid ym ni rwymedig i roi i chwi yr un dyfyn penodol,' ebr Angeu, am eich bod yn cael ym mhob lle, bob amser o'ch einioes, rybudd o'm dyfodiad i. Pa sawl pregeth a glywsoch am farwoldeb dyn? Pa sawl llyfr, pa sawl bedd, pa sawl clul,[5] pa sawl clefyd, pa sawl cenad ac arwydd a welsoch? Beth yw eich cwsg, ond fy mrawd i? Beth yw eich penglogau, ond fy llun i? Beth yw eich bwyd beunyddiol, ond creaduriaid meirwon? Na cheisiwch fwrw mo'ch aflwydd arnaf fi; chwi ni fynech son am y dyfyn, er ei gael ganwaith.' 'Ertolwg,' ebr un Recordor coch, beth sy genych i'n herbyn?' Beth!' ebr Angeu; 'yfed chwys a gwaed y tlodion, a chodi dwbl eich cyflog.' Dyma wr gonest,' eb ef, gan ddangos cecryn oedd o'u hol, 'a wyr na wnaethym i erioed ond tegwch: ac nid teg i chwi ein dal ni yma, heb genych un bai penodol i'w brofi i'n herbyn.' 'Hai, hai,' ebr Angeu, cewch brofi yn eich herbyn eich hunain: gosodwch,' ebr ef, 'y rhai hyn ar fin y dibyn, ger bron gorsedd Cyfiawnder; hwy a gânt yno uniondeb, or nas gwnaethant.'

Yr oedd yn ol eto saith o garcharorion ereill, a'r rhai hyny yn cadw'r fath drafferth a thrwst; rhai yn gwenieithio, rhai yn ymrincian, rhai yn bygwth, rhai yn cynghori, &c. Prin

  1. Cwrt i feinwar i chwareu.—D. ab Gwilym.
  2. 'Dydd-farn' (=dydd y farn), yma a manau ereill, yn arg. 1703.
  3. Recorder=Cofiadur.
  4. Ireidlyd, wedi eu hiro
  5. Cnul, cnill; cloch a genir ar farwolaeth un