Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cecryn, dyna eich henwau a saif arnoch o hyn allan byth.' 'Aie,' ebr Cecryn, 'myn diawl, mi wnaf yn hallt i chwithau; er y gallech fy lladd, nid oes genych ddim awdurdod i'm llysenwi. Mi rof gydgwyn am hyny ac am gamgarchariad arnoch chwi a'ch câr Luciffer, yng nghwrt Cyfiawnder.'

Erbyn hyn gwelwn fyddinoedd Angeu wedi ymdrefnu ac ymarfogi, a'u golwg ar y brenin am roi'r gair. Yna, ebr y brenin, wedi ymsythu ar ei freninfainc, 'Fy lluoedd ofnadwy, anorchfygol, na arbedwch ofal a phrysurdeb i hebrwng y carcharorion hyn allan o'm terfynau i, rhag diwyno fy ngwlad; a bwriwch hwy yn rhwym tros y dibyn diobaith, a'u penau yn isaf. Ond yr wythfed, y gwr Cwmbrus yna, sy'n fy mygwth i, gedwch ef yn rhydd uwch ben y geulan tan gwrt Cyfiawnder, i brofi gwneyd ei gwyn yn dda i'm herbyn i, os geill.' A chyda'i fod e'n eistedd, dyma'r holl fyddinoedd marwol wedi amgylchu a rhwymo'r carcharorion, ac yn eu cychwyn tua'u lletty. A minnau wedi myned allan, ac yn lled-ysbio ar eu hol, Tyred yma,' ebr Cwsg, ac a'm cipiodd i ben y tŵr uchaf ar y llys. Oddi yno gwelwn y carcharorion yn myned rhagddynt i'w dienydd tragwyddol. A chyn pen nemor, cododd pwff o gorwynt, ac a chwalodd y niwl pygdew cyffredin oedd ar wyneb Tir Anghof, onid aeth hi yn llwyd oleu, lle gwelwn i fyrdd fyrddiwn o ganwyllau gleision; ac wrth y rhai hyny, ces olwg o hirbell ar fin y geulan ddiwaelod: ond os golwg dra ochryslawn oedd hòno, yr oedd yno uwch ben olwg erchyllach na hithau, sef Cyfiawnder ar ei gorseddfainc yn cadw drws uffern, ar frawdle neillduol uwch ben y safn, i roi barn ar y colledigion fel y delont. Gwelwn daflu'r lleill bendramwnwgl, a Checryn yntau yn rhuthro i daflu ei hun tros yr ymyl ofnadwy, rhag edrych unwaith ar gwrt Cyfiawnder; canys, och! yr oedd yno olwg rydost i wyneb euog. Nid oeddwn i ond ysbio o hirbell; eto mi a welais fwy o erchylldod arswydus nag a fedraf fi yr awran ei draethu, nac a fedrais i y pryd hyny ei oddef; canys ymdrechodd a dychlamodd fy ysbryd gan y dirfawr ddychryn, ac ymorchestodd mor egnïol, oni thorodd holl gloiau Cwsg, a dychwelodd fy enaid i'w chynnefin swyddau: a bu lawen iawn genyf fy ngweled fy hun eto ym mysg y rhai byw; a bwriedais fyw wellwell, gan fod yn esmwythach genyf gan mlynedd o gystudd yn llwybrau sancteiddrwydd, na gorfod gweled cip arall ar erchylldod y noson hòno.