Tudalen:Gwialen Fedw Fy Mam.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWIALEN FEDW FY MAM

————

TON—"Old Darby."

————

PAN byddai enogrwydd cydwybod
Bron llethu fy enaid i'r llawr
Ar ol im' gyflawni rhyw bechod
Gyfrifwn pryd hyny yn fawr;
Fe dreiglai y dagrau tryloywon,
Nid ofnaf ddywedyd pa ham
'Roedd cwmwl ar wyneb mor dirion—
Ond ofn gwialen fedw fy mam.

Wrth ddyfod o'r ysgol ar redeg,
Llawn awydd bod gartref mewn pryd,
Tarawai fy nhroed wrth ryw gareg,
A syrthiwn i'r baw ar fy hyd!
Awn yna i dai fy nghydnabod,
I draethu fy nghyni a'm cam,
A'm harswyd rhag ofn cael fy ngosod
Dan bwys gwialen fedw fy mama.

Pan gawn i y fraint o gyd—fwyta
Ar unwaith a nhad wrth y bwrdd,