Tudalen:Gwialen Fedw Fy Mam.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CWYN YR AMDDIFAD.

TON "Trymder."

DAN gangau'r ywen, wylo'r wyf,
Ar feddrod oer;
Fan hyn yn gwywo gan fy nghlwyf,
Wrth oleu'r lloer;
Nid oes im' gysur ar fy hynt, Fel brofais yn yr amser gynt,
Ond ocheneidio gyd a'r gwynt
Raid imi'n awr:
O dan y tyweirch gwlybion hyn
Mae mam a nhad gan angeu'n dyn;
A mi'n amddifad, olwg syn,
Yn llwm ar lawr!
O feddrod llaith, mae ynot ti
Ddedwyddwch f'oes;
Gorchuddiaist fy ngobeithion i,—
Rwy'n teimlo'r loes
Ni chlywaf mwyach lais fy mam
Yn canu'n beraidd a di nam
Na cherydd tad, er gochel cam—
Maent yn y bedd!
Pwy, pwy a'm gwylia, fel gwnaent hwy?
Pwy sych ty nagrau, leddfa 'nghlwy?
Neb! neb! amddifad fyddaf mwy,
A thrist fy ngwedd.
Na sonier mwyach wrthyf fi
Am gyfoeth drud;
Nac am bleserau mawr eu bri
Ar hyd y byd;
Pe cawn i holl drysorau'r wlad,
Dyddanwch daear yn ddi wâd,
Beth ydynt oll, heb fam na thad!
Dim, dim i mi!
Try hiraeth dwys holl bethau'r llawr
Yn ddiwerth hollol imi'n awr !
Unigrwydd sydd yn duo 'ngwawr,
A deffro'm cri.