profiadau sydd wedi eu cofnodi mewn iaith anfarwol gan y Salmydd tyner, y Pregethwr doeth, y Prophwydi barddonol, ac yn y dirif ystorïau a geir o un pen i'r llall o'r Beibl. Ac am ei fod yn gwybod ei Feibl, ac yn ei deimlo, yr oedd Henri yn gwybod am adnodau (ac yn gweled ystyr newydd ynddynt) na ddaeth i feddwl gwyr ieuainc y prifysgolion.
Yr oedd ganddo hefyd gyfieithiad o 'Daith y Pererin,' —mewn llythyrenau bras a darlun ar bob tudalen, a nodiadau gan Kilsby ar y gwaelod. Hwn, a Beibl Peter Williams, a ddarllenid ar nos Suliau yn y gauaf pan yr oedd yn rhy oer a glyb i Elen a'r plant i fyn'd i'r capel. Yr oedd Gwilym yn gwybod hanes Cristion bob cam o'r ffordd; ie, gwyddai am bob tro yn y daith o Ddinas Distryw i'r Mynyddoedd Dedwydd. Yr oedd ei galon wedi euro ganwaith gyda'r pererin yn y Gors a than fynydd Sinai, yn y Glyn ac yn Ffair Gwagedd, yng Nghastell Cawr Anobaith ac ar Lan yr Afon, ac nid oedd dim oedd Henri ac Elen mor hoff o wneyd a gofyn i Gwilym i esbonio yr hanes ynglyn â phob llun yn y llyfr.
Mynych hefyd y byddai Henri yn darllen Cymru Fu,' a gwaith bendigedig yr hen Theophilus, 'Drych y Prif Oesoedd.' Gwyddai a chredai hanes goresgyniad Prydain gan y Saeson, fel y traethwyd ef gan yr hen ysgrifenwr melus, ac yr oedd ei nwyd wedi ei chynhyrfu lawer gwaith wrth ddarllen ystori bradwriaeth Gwrtheyrn a Modred, a thwyll Hengist a'i ferch ysgeler Rhonwen. Y mae dysgawdwyr yn dweyd mai ffug yw'r cyfan; na fu byw y fath ddyn a Hengist erioed, mai chwedl y beirdd yw'r brenin Arthur, ac mai dychymyg pobl orchfygedig a greodd 'Frad y Cyllill Hirion. Gwelais, yr haf diweddaf, wr ieuanc oedd wedi graddio ym Mhrifysgol Llundain yn edrych gyda gwên o wawd ar yr hen lyfr ym Mhlas Newydd, a