ar ochr yr heol. Hwn, yn ddiau, oedd y Ty Prydferth. Edrychai arno yr ail waith, a sibrydai rhywbeth yn ei glust mai hwn oedd y lle, ac aeth ymlaen yn eofn, fel Cristion, at y drws.
Bu am beth amser yn petruso pa fodd y dylai wneyd yn hysbys i'r merched oddifewn fod pererin yno yn gofyn am letty. Yr oedd knocker ar y drws, ond ni wyddai Gwilym beth oedd ystyr a defnydd hwnw, oherwydd nid oedd y fath beth ar un drws ym Mhlas. Newydd. O'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fyny i guro â'i ddwrn yn erbyn y drws; ac, ar ol gwneyd, dychrynai wrth swn ei guriad gwylaidd. Ni fu raid iddo. aros yn hir am atebiad. Yn ebrwydd agorwyd y drws. gan y ferch lanaf a thecaf welodd Gwilym yn ei fywyd. Nis gallai y pererin bach wneyd dim ond edrych arni, ac yr oedd ei syndod a'i lawenydd gymaint fel yr anghofiodd ddweyd dim wrthi.
'Beth ych chi 'n 'mofyn, 'y machgen i?' meddai'r eneth o'r diwedd, a thybiai Gwilym na chlywodd y fath lais treiddgar, ac na chanfu y fath lygaid siriol erioed.
'A—a—a dyma'r Ty Prydferth?' gofynai ar ol ymdrech galed.
'Y Ty Prydferth?' ebai'r forwynig. 'Nage, machgen i. Brynhyfryd yw hwn.'
O 'rown i'n meddwl taw hwn odd e,' meddai Gwilym, a siomiant yn llanw ei lais. Mae e'n gwmws yr un peth a'r llun.'
'Pwy lun, fachgen bach?' ebai'r eneth.
'Y llun sy' gyda ni gatre yn Nhaith y Pererin,' atebai Gwilym, 'a 'rodd tyta wedi gweyd wrtha i mai ffor hyn odd e' yn rhwle.'
Wrth glywed y plentyn o'r braidd na wenodd y forwynig, ond disgleiriai ei llygaid fel fioledau dan wlith y boreu.