Hyfryd, yn llawn esgusodion dros Gwilym, a diolch am yr oll yr oedd Mrs. Bevan wedi wneyd drosto. Ond nid oedd y Forwynig yn foddlon i ollwng Gwilym i ddychwelyd gartref. Aeth hi a'i mham i hebrwng Henri ac yntau yr holl ffordd i Blas Newydd, ac os byth y blinai Gwilym gerdded, ni ollyngai i neb i'w gario. ond hi ei hunan. Pan ddaethant hyd at Blas Newydd, erfyniodd am faddeuant i Gwilym, ac adroddodd yr hanes gyda'r fath deimlad a swyn fel na allai Elen wneyd dim ond gwasgu y plentyn a gollwyd at ei mhynwes, a dododd ef yn ei wely i gysgu wrth ochr Benni Bach heb ddweyd yr un gair croes wrtho. Ac aeth y Forwynig i'r ystafell wely ar ol i Gwilym ddweyd ei bader, a chusanodd y ddau yn ysgafn, canys yr oeddynt erbyn hyn yn cysgu.
A phan ddihunodd Gwilym a Benni Bach boreu dranoeth, wele, cawsant ddwy dafell fawr o deisen frau ar eu gobenydd, a dywedai Gwilym ei fod yn sicr mai rhodd Cariad oeddynt, ac yn hyn, nid oedd ymhell o'i le.