Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gore,' mynte hithe, mi 'na i gaseg hyddug i chi 'nawr.' A dyma hi'n myn'd i grynhoi côd 'sgynydd, ag ar ol ea'l coeled o heni nhw, dyma hi'n dodi nhw at eu gilydd ag yn cynu tân. 'Dringadwch chi i ben y pren 'na,' mynte hi, a man gwelwch chi wreichonen yn dwad i'r lan atoch chi, neidwch ar i phen hi a gwaeddwch

Gaseg hyddug
Der' i'r golwg.

a mi eiff hi a chi 'nol yn ôl reit.' A dyma nine'n dou yn dringad y pren, ag miwn tipyn 'rodd y tân yn cynu a'r gwreichon ym myn'd i'r lan, ond 'ro'dd dim un yn dwad yn agos ato ni. Ag o'r diwedd dyma'r Frenhines ym myn'd ar bwys lle 'ro'dd y Brenhin yn cysgu, a dyma hi yn plwco dou welltyn o'i ben e', ag yn eu towlu nhw i'r tân, ag yn gweyd wrthi nhw,

Wreichon mowr
Cerwch 'nawr.

A dyna ddwy wreichonen fowr yn neido mas o'r tân, a dyma un o heni nhw yn dwad ato fe ag un ata i, a dyma ni'n dou yn neido arni nhw, ag yn gwaeddi

Gaseg hyddug
Der' i'r golwg.

A gyda hyny, 'roen ni'n ishte bagal abowt ar gefn caseg hyddug ddu fowr fel ta ni'n brochgau ceffyl, a lan a ni drwy'r twll fel y gwynt!'

A 'ro'dd yr hen Frenhin yn cysgu o hyd?' gofynai Gwilym.

'O'dd,' atebai Benni, 'ro'dd e'n cysgu pan oen ni'n dechre'r ffordd, ond pan oen ni wedi bod yn brochgau am amboitu awr, mi glywsen yr hen Frenhin yn hydfan lan whyr, whyr, ar ein hol ni mor gynted ag y galle fe, ag 'roen ni'n clwed e'n dwad yn nes, nes o hyd. Ond 'rodd y gaseg hyddug yn gynt nag ê, a gyda'n bod ni yn gwel'd tòp y Cae Hir, dyma'r hen Frenhin