A'r dwthwn hwnw bu fy neiaint yn treulio'r Nadolig gyda'r doctor hyd nes i leni'r hwyr i ddisgyn ar y dref. Buont yn ymweled âg ef yn ei gartref, a bu yntau yn dweyd ystoriau wrthynt am y baban bach ym Methlehem, ac am lawer gwr enwog fu'n ymladd dros y gwir,—yng ngwlad Canaan, yn Rhufain, yn trengu wrth y stanc yn Smithfield, ac yn dioddef merthyrdod ar y maes cenhadol, ac yn enwedig am hen wroniaid y groes yng Nghymru. Daeth, hefyd, i'w hebrwng yn ol ar ddiwedd y dydd i ddrws yn nhy, er ei fod yn hên a'r tywydd yn flin a'r ffordd ymhell. Ceisais esgusodi fy neiaint wrtho ar drothwy'r drws am y drafferth yr oeddynt wedi roddi iddo.
Fy machgen i,' meddai'r hen wr, ni fues i mewn diwygiad mor agos i'r nefodd, ag a fues i heddi. 'O eneu plant bychain y perffeithir moliant,' ac ond i chi edrych i galonau pur y ddau fach hyn, gellwch wel'd llun y nefoedd arnynt. 'Dyn nhw ddim wedi 'madel â'r nefo'dd am gyment o amser a ni, a 'dyn nhw ddim wedi ei anghofio hi fel ni. Na, na, y fi ddylai ddiolch am gael profiad calonau diniwed, a meddyliau eneidiau sydd heb eu dallu gan bechodau'r byd. Ac y mae'r gair dwad i'm meddwl i'n fyw iawn, Doctor Davies, ac oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychair. Trwbwl, doctor anwyl; na, nid trwbwl yw bod gyda nhw, ond braint. Nos dawch, 'y mhlant!. Mi ddaw tadcu i'ch gwel'd chi yto cyn bo hir.'
Ac ymostyngodd yr hên batriarch a chusanodd y ddau blentyn. A hwythau a daflasant eu breichiau am ei wddf garw, ac a'i carasant fel y carasent eu mham neu Gariad o'r Ty Prydferth. A dywedasant wrtho ddistaw yn ei glust am brysuro yn ôl eto i'w gweled ac i ddweyd wrthynt yr hanes am breseb Bethlehem, ac yntau a addawodd yr eilwaith a'r trydydd waith. Dywedasant wrtho hefyd y byddai iddynt edrych yn