Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eilwaith wrth y brwdd, a chopiais hwynt mewn llaw frâs a thêg, gan drafferthu nid ychydig gyda'r lythyren gyntaf ym mhob llinell. Fel hyn y rhedent:—

Paham y cwynfani, y gwynt,
Wrth dramwy tuallan i'm ty?
O gwn mai galaru yr wyt
Oherwydd it' fadel â Hi!

O dychwel yn glau yn dy ôl,
Nac oeda ar fôr nac ar dir,
A sisial fy neges yng nghlust
Y llances a garaf yn bur.

O dywed it' wel'd ar dy daith
Ryw lencyn yn wael iawn ei lun,
Yn marw o gariad, am na
Chaiff Gariad yn eiddo ei hun.

Ac os hi a blyga ei phen
Ac addaw y gwellith ei friw,
D'wed nas gall ef dalu ond hyn,
Ei charu tra byddo fe byw.

A phan oeddwn yn dringo i fyny'r steiriau, ac yn clywed y gwynt yn chwythu oddiallan, adroddwn yn ddistaw wrthyf fy hun linell gyntaf y penillion, a'r peth diweddaf cyn cysgu, addawais unwaith wedyn ei charu tra fyddwn i byw.'