O peidwch a myn'd, Cariad fach,' ymbiliai Gwilym. Odi chi'n promeisho 'te?' gofynai Cariad.
'Odyn,' atebai'r ddau gyda'u gilydd.
'A mae'n rhaid i chi roi'r papyr 'ma 'nol i 'nwncwl,' aeth Cariad ymlaen i ddweyd, a gweyd wrtho fe lle cesoch chi e'.'
'O'n gore,' meddai'r plant.
Yr oeddwn, yn ystod y siarad hyn, wedi cael fy nharo a chymaint o syndod fel yr oeddwn wedi methu syflyd o'r man. Ond, ar hyn, fflachiodd rhywbeth ar draws fy meddwl, dodais fy llaw yn fy mhoced, ac wele! nid oedd y papyr ar yr hwn yr ysgrifenais y penillion, yn fy meddiant! Dyna'r papyr yn ddiau oedd yn nwylaw Gwilym, a dyna'r papyr, hefyd, a ddarllenwyd gan Miss Bevan. Nis gwyddwn beth i wneyd—pu'n a'i bod yn brudd neu yn llon. Teimlwn yn falch fod Miss Bevan yn gwybod os oedd yn gwybod, hefyd—beth oedd cyflwr fy meddwl tuag ati; ond ofnwn y buasai ei hateb yn fy amddifadu o'm hunig gysur, y gobaith o'i henill yn wraig. Nid oedd amser i fyfyrio. Beth ddywedai Miss Bevan wrthyf pe gwelai fi yn gwrando wrth y llwyn arel? Gwir i mi ddyfod yno yn eithaf diddichell, ac mai hap yn unig a berodd i mi glywed eu hymddidd— Ond ni fuasai yn hawdd gwneyd hyn o esboniad; ac felly, brysiais ar flaenau fy nhraed, oddi— wrth y llwyn. Ar ol cyrhaedd drws y ty drachefn gwaeddais à llef uchel ar fy neiaint. Atebwyd fi o'r llwyn arel, a thuag yno y cyfeirias fy nghamrau drachefn, gan deimlo mor euog a lleidr pen—ffordd.
Nawr, blant bach,' meddwn, mae mami am chi fyn'd i'r ty ar unwaith, i chi gael 'molchyd cyn tê.' Os cramboithe i dê, 'nwncwl?' gofynai Benni Bach. Os, 'rwy'n meddwl,' atebais, gan chwerthin, ond os na 'newch chi hast, chewch chi ddim o heni nhw.'
Yr oedd Gwilym wedi bod yn edrych yn ddyryslyd