Tudalen:Gwilym a Benni Bach.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Saeson mewn iaith ac arferion. Dywedwyd wrthi y byddai'r Gymraeg yn rhwystr ar fordd eu llwyddiant, ac na fyddai iddynt byth gael gwared ar yr acen Gymreig, os mai yr iaith hono a ddysgent yn gyntaf. Ni wnai Cariad ateb rhyw lawer, ond y cyntaf peth a ddysgodd i'r plant ei adrodd oedd llinellau Ceiriog, wedi eu nhewid ychydig,

Fy mhlentyn bach, tyr'd yma
Ac ar fy neulin dysga,
Iaith dy fam yn gynta'r un
Ac wedy'n iaith Victoria.

Ac ni chewch well Cymry bach yn yr holl fyd na phlant Doctor Davies, Bro Dawel, Abertawe. Y maent, yn wir, yn gallu deall a siarad a darllen Saesneg mor rhwydded a'r Gymraeg, a meiddiaf ddweyd ei fod yn well Saesneg nag a glywir o eneuau llawer o'r Cymry hyny sydd heb ddysgu'r Gymraeg. Gan eu bod yn deall eu heniaith, y maent hefyd, pan yr ymwelant a Phlas Newydd a'r Ty Prydferth yn yr haf, yn gallu gwerthfawrogi cymdeithas eu perthynasau, ac yr wyf yn gobeithio y deuant i ganfod ac i ymfalchio ym mhrydferthwch a swyn y bywyd Cymreig, pan dyfant i fyny, fel eu mham a'u tad. Hyn a wn yn sicr. Ni fuasent wedi gallu gwneyd ffryndiau a'u dau gefnder mor gynted oni bai am eu llwyr Gymreigdod, canys ni allai na Gwilym na Benni ymddiddan yn rhwydd yn Saesneg cyn iddynt gael eu danfon i'r Ysgol Ramadegol.

Balch ydwyf heddyw, gan hyny, fod fy mhlant wedi meddianu, er yn ieuanc, ddwy etifeddiaeth deg. Deallant ffrwyth athrylith Shakespeare a Milton; ond teimlant hefyd ddylanwad melus Pantycelyn a Cheiriog. Pan y cyrhaeddant oedran gwr, byddant yn gynefin a iaith masnach a iaith y byd; ond byddant hefyd yn gallu siarad a'u newyrth a'u mhobryb yn eu hiaith eu hunain, a gwybyddant y ffordd i ddefnyddio'r unig